hafan1
fflatiau
prisiau_a_bwcio
atyniadau
geirda
diwylliant
tresaith
iaith_language

Llety Tresaith, Bae Ceredigion

Ar arfordir Ceredigion mae gennym ddewis o 3 fflat cysurus ym mhentref glan mor Tresaith, ynghyd â Chanolfan all gysgu hyd at 44 o bobol! Lleolir y 3 fflat mewn ty o’r enw Fronifor sydd ddim ond 200 llath o draeth bendigedig Tresaith.
Gall fflat Cilie gysgu dau mewn gwely dwbl a tri mewn gwelyau sengl; mae gan fflat Ty Llew ddwy stafell wely ddwbl a soffa wely ddwbl yn y stafell fyw; Eluned yw’r enw ar y fflat leaif sydd gydag un ystafell wely ddwbl a chyfle i gysgu un ar y soffa yn yr ystafell fyw.
Canolfan Tresaith – dyma lety yn gallu cysgu hyd at 44 o bobol. Mae croeso i ysgolion, sefydliadau, teuluoedd o bob math ddod i aros am ddwy neu ragor o nosweithiau. Mae’r pris yn rhesymol iawn, ac mae pawb yn cael amser wrth eu boddau! Ymwelwch â’n gwefan www.tresaith.net am wybodaeth pellach.

Tresaith

Gwn am hafan, man i mi,
yn gynnes rhwng clogwyni,
lle mae ton ar don yn dod
a'i lanw yn wylanod,
bae a chreigiau a chregyn,
tir a thai, a'r traeth ei hun.

Yn awr mae lle i aros,
un man yn hafan drwy'r nos,
un gwesty i Gymru i gyd
yn y bae fwynhau bywyd,
un lle rhydd ymhell o'r haid,
lle i wên, a gwell enaid.

Tudur Dylan Jones

<
   pysgodfflat@hotmail.com    07780 548 288