hafan1
fflatiau
prisiau_a_bwcio
atyniadau
geirda
diwylliant
tresaith
iaith_language

Dinbych y Pysgod

Mae'r iaith Gymraeg yn ganolog i ddiwylliant a hanes Cymru. Mae'r nifer o siaradwyr Cymraeg wedi syrthio dros y blynyddoedd ac erbyn hyn mae mor isel â dim ond 19% o boblogaeth Cymru sydd yn siaradwyr Cymraeg. Gan ein bod yn drefedigaeth o Loegr, fel trefedigaethau eraill, cafodd dileu iaith ei ddefnyddio fel modd i ddileu cenedl. Rheswm arall am y dirywiad yn y niferoedd sydd yn siarad yr iaith yw yr allfudiad anferth o Gymru sydd wedyn yn creu gwagle i fewnlifiad o Loegr i'r wlad.

Yn Sir Benfro mae rhaniad amlwg yng Nghymreictod gogledd y sir a de'r sir. Mae'r iaith, yn hanesyddol wedi bod yn gryfach yng ngogledd y sir. Enw'r ffin ieithyddol anweledig hon ydy'r Landsker. Mae manylion pellach i'w gweld yma. Mae nifer o bobol sydd ddim yn medru'r Gymraeg yn ne Sir Benfro yn araf ddeffro i'w colled ac mae mwyfwy o ysgolion 'Cymraeg' yn agor yn y sir.

Roedd tiriogaeth Sir Benfro yn ran o frenhiniaeth y Deheubarth oedd yn cael ei reoli gan Rhys ap Tewdwr (1065 - 1093). Daeth yr unfed ganrif ar ddeg â'r Normaniaid ac yn ystod ail hanner y ganrif honno dygwyd de Sir Benfro oddi wrth y Cymry ganddynt. Yn y blynyddoedd i ddod roedd Dinbych y Pysgod, dan reolaeth y Normaniaid, o dan ymosodiadau niferus gan y Cymry i drio ad-ennill y dref. (Roedd y rhan fwyaf o Gymru wedi'i ad-ennill gan Gruffudd ap Cynan erbyn 1101). Un o'r ymosodiadau cryfaf ar Ddinbych y Pysgod oedd gan Llywelyn ap Gruffydd yn 1260. Dyma a osgogodd iarll Penfro i wella tyrrau amddiffynnol a bwâu y dref. Mae'r rhain i'w gweld heddiw. Ymwelwch y wefan hon am hanes pellach ardaloedd eraill Sir Benfro.

Yn y 15 fed ganrif roedd y wlad drws nesaf i Gymru, Lloegr, yng nghanol rhyfel cartref a adnabir fel Rhyfel y Rhosynod, rhyfel rhwng 'Ty Caerhirfryn' a 'Ty Efrog'. Yn 1471, gorfi ddau aelod o Dy Caerhirfryn, Jasper Tudor (iarll Penfro) a'i nai, Harri Tudur (a anwyd yng nghastell Penfro yn 1457, ac a oedd yn etifedd Ty Caerhirfryn i'r goron ac a ddaeth yn Harri'r VII yn Lloegr), ffoi i Ffrainc o Sir Benfro gyda'u gelynion wrth eu sodlau. Credir i Jasper a Harri ddianc trwy siamberi a thwneli, yn rhedeg o dan siop Boots heddiw, tuag at yr harbwr, drwy fflat Harbwr yn Hafod y Môr, mas i'r ardd ac i'r môr.

   pysgodfflat@hotmail.com    07780 548 288