hafan1
fflatiau
prisiau_a_bwcio
atyniadau
geirda
diwylliant
tresaith
iaith_language

Mae'r lle yma'n nefoedd! Golygfeydd bythgofiadwy o'r ffenest, a thafliad carreg yn unig o'r traethau a siopau unigryw y dre - be' gewch chi well?!

Kate Woodward, Aberystwyth

Mi nes i a’m gwr dreulio penwythnos hir yn mis Ionawr yn fflat Dewi Emrys. Ma'r fflat ei hun mewn lleoliad perffaith, yn ganolog i'r dre a'r traeth. Ond yr uchafbwynt i ni oedd yr olygfa o'r fflat ei hun. O'r eiliad naethon ni gerdded i fewn i'r fflat, gethon ni ein denu i'r olygfa godidog sydd i'w gweld o'r lolfa, golygfa hyfryd dros yr harbwr, beth bynnag y tywydd! Gallwn fod wedi treulio oriau yn eistedd wrth y ffenest yn ymlacio wrth edrych dros y môr. Mi odd ein stafelloedd yn fawr ac yn lân. Ni'n disgwyl mlaen cael mynd eto i aros yn Ninbych y Pysgod.

Mererid McDaid, Caerdydd

Fflat wedi’i ddodrefnu yn dda gyda golygfeydd anhygoel, ac wedi’i leoli yn berffaith ar gyfer y dref a’r traeth. Yn falch ofnadwy i ni aros yno, ac yn bwriadu dychwelyd nifer o weithiau eto. Diolch.

Dafydd Bevan

   pysgodfflat@hotmail.com    07780 548 288