Hafod y Môr – gwyliau ger y traeth...
Cynigiwn lety clyd a chyfforddus mewn tŷ uwchben harbwr a thref godidog Dinbych y Pysgod.
O fewn Hafod y Môr, mae pedair fflat eang – Waldo sy’n cysgu 9; Dewi Emrys sy’n cysgu 5 (7 gyda'r gwely soffa); Crwys sy’n cysgu 2; a Harbwr sy’n cysgu 2 (4 gyda'r gwely soffa).
Ceir golygfeydd ysblennydd o harbwr Dinbych y Pysgod o bob un fflat.
Côd post y fflatiau yw SA70 7HA. Mae cyfarwyddiadau pellach ar sut i gyrraedd y fflatiau ar gael yma.
Dim plant o dan 18 oed i aros heb fod ganddynt oruwchwyliaeth oedolyn.